Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mawrth 2018
Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 20 – Datganiad am Gynigion y Gyllideb Ddrafft
Diben
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.
2. Mae'r adroddiad yn argymell diwygio Rheol Sefydlog 20 i ffurfioli gweithdrefn i ganiatáu i’r Aelodau drafod y datganiad am Gyllideb Ddrafft y Llywodraeth. Caiff un o Weinidogion Cymru wneud datganiad o’r fath yn y Cyfarfod Llawn cyn gynted â phosibl ar ôl i’r cynigion cyllideb amlinellol gael eu gosod yn unol â Rheol Sefydlog 20.7. Mae'r newidiadau y cytunodd y Pwyllgor Busnes arnynt i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynnig ar gyfer yRheolau Sefydlog newydd i'w weld yn Atodiad B.
Y cefndir
3. Ar 13 Chwefror 2018, ystyriodd y Rheolwyr Busnes bapur ar Raglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth a’i Datganiad ar y Gyllideb Ddrafft, a chytunodd ar welliant arfaethedig i Reol Sefydlog 20 i ffurfioli gweithdrefn a dreialwyd ar 3 Hydref 2016, a chaniatáu i’r Aelodau drafod y datganiad sy’n cyflwyno cynigion cyllideb ddrafft y Llywodraeth.
4. Mae'r fformat yn caniatáu i ddatganiad gael ei wneud a'i drafod ar unwaith. Mae'n caniatáu i’r Aelodau siarad am gyfnod hirach nag o’r blaen, a bydd cyfle o hyd i gynnal pleidlais ar y gyllideb ddrafft yn y Cyfarfod Llawn ar ôl i’r pwyllgorau gwblhau eu gwaith craffu.
5. Wrth adolygu diwygiadau'r Cyfarfod Llawn, cytunodd y Rheolwyr Busnes eu bod yn dymuno diwygio Rheol Sefydlog 20 fel y gellir dilyn y fformat hwn bob blwyddyn.
Camau i’w cymryd
6. Ar 6 Mawrth 2018, cytunodd y Pwyllgor Busnes yn ffurfiol i newid y Rheolau Sefydlog, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynnig yn Atodiad B.
Atodiad A
RHEOL SEFYDLOG 20 – Gweithdrefnau Cyllid |
||
|
Y Gyllideb Ddrafft. |
Dim newid |
20.7
|
Yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6), rhaid i un o Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad gynigion cyllideb amlinellol sy’n nodi’r cynlluniau cyllido a’r symiau o adnoddau ac arian parod y mae’r llywodraeth yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol a darpar symiau ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol neu ar gyfer unrhyw gyfnod arall sy’n briodol ym marn y Gweinidog. |
Dim newid |
20.7A |
Ar yr un pryd ag y bydd un o Weinidogion Cymru yn gosod cynigion cyllideb amlinellol gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.7, rhaid iddo hefyd osod y cyfryw wybodaeth ategol a nodir yn y protocol a gytunwyd o dan Reol Sefydlog 20.1A. |
Dim newid |
20.7B |
Yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6), rhaid i un o Weinidogion Cymru osod cynigion cyllideb manwl gerbron y Cynulliad, gan gynnwys y dyraniadau arfaethedig ar gyfer pob portffolio gweinidogol. |
Dim newid |
20.8 |
Caiff un o Weinidogion Cymru wneud datganiad am y gyllideb ddrafft yn y cyfarfod llawn cyn gynted â phosibl ar ôl i’r cynigion cyllideb amlinellol gael eu gosod yn unol â Rheol Sefydlog 20.7. Caiff yr Aelodau drafod y datganiad. |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Mae'r newid arfaethedig yn caniatáu i’r Aelodau drafod y datganiad gan y Gweinidog, yn hytrach na gofyn cwestiynau’n ôl yr arfer o dan Reol Sefydlog 12.51. Mae'r newid hefyd yn galluogi'r Cynulliad i drafod datganiad yn hytrach na chynnig, yn wahanol i’r drefn arferol. |
20.9 |
Ni chaniateir gwneud cynnig yn y cyfarfod llawn mewn perthynas â chyllideb ddrafft y llywodraeth nes bydd y dyddiad a ganlyn wedi mynd heibio: i) y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar y cynigion cyllideb amlinellol o dan Reol Sefydlog 20.4(ii) (neu Reol Sefydlog 20.6); a ii) y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n rhaid i bwyllgorau eraill gwblhau eu hystyriaeth o’r cynigion cyllideb manwl o dan Reol Sefydlog 20.4(iii) (neu Reol Sefydlog 20.6).
|
Dim newid |
|
[Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad y cyfarfod llawn ar 21 Mehefin 2017] |
|
20.11 |
Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynigion cyllideb amlinellol ar yr amod; i) na fyddai effaith net y newidiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng y cyfansymiau gynigiwyd yng nghynigion cyllideb amlinellol y llywodraeth; neu ii) bod cynnig ar gyfer cynnydd cymesur yn lefel y cyllid perthnasol yn cyd-fynd ag unrhyw argymhelliad i gynyddu cyfanswm arfaethedig y gwariant; neu iii) y dylai unrhyw argymhelliad i ostwng lefel y cyllid egluro sut y bydd y gostyngiad hwnnw yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad yng nghyfanswm arfaethedig y gwariant. |
Dim newid |
20.12 |
Yn unol â’r amserlen a sefydlwyd ac a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Busnes o dan Reol Sefydlog 20.4 neu 20.6, rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynwyd gan un o Weinidogion Cymru fod y Cynulliad yn nodi cyllideb ddrafft y llywodraeth. Dim ond o dan yr amodau a ganlyn y caniateir i unrhyw welliant gael ei gyflwyno i gynnig o’r fath:
i) na fyddai effaith net unrhyw newidiadau yn cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yng nghyllideb ddrafft y llywodraeth; neu ii) bod cynnig ar gyfer cynnydd cymesur yn lefel y cyllid perthnasol yn cyd-fynd ag unrhyw gynnig i gynyddu cyfanswm arfaethedig y gwariant; neu iii) y dylai unrhyw gynnig i ostwng lefel y cyllid egluro sut y bydd y gostyngiad hwnnw yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad yng nghyfanswm arfaethedig y gwariant. |
Dim newid |
Atodiad B
20. RHEOL SEFYDLOG 20 – Gweithdrefnau Cyllid
Cynigion y Gyllideb Ddrafft.
20.7 Yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6), rhaid i un o Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad gynigion cyllideb amlinellol sy’n nodi’r cynlluniau cyllido a’r symiau o adnoddau ac arian parod y mae’r llywodraeth yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol a darpar symiau ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol neu ar gyfer unrhyw gyfnod arall sy’n briodol ym marn y Gweinidog.
20.7A Ar yr un pryd ag y bydd un o Weinidogion Cymru yn gosod cynigion cyllideb amlinellol gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.7, rhaid iddo hefyd osod y cyfryw wybodaeth ategol a nodir yn y protocol a gytunwyd o dan Reol Sefydlog 20.1A.
20.7B Yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6), rhaid i un o Weinidogion Cymru osod cynigion cyllideb manwl gerbron y Cynulliad, gan gynnwys y dyraniadau arfaethedig ar gyfer pob portffolio gweinidogol.
20.8 Caiff un o Weinidogion Cymru wneud datganiad am y gyllideb ddrafft yn y cyfarfod llawn cyn gynted â phosibl ar ôl i’r cynigion cyllideb amlinellol gael eu gosod yn unol â Rheol Sefydlog 20.7. Caiff yr Aelodau drafod y datganiad.
20.9 Ni chaniateir gwneud cynnig yn y cyfarfod llawn mewn perthynas â chyllideb ddrafft y llywodraeth nes bydd y dyddiad a ganlyn wedi mynd heibio:
iii) y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r pwyllgor cyfrifol gyflwyno adroddiad ar y cynigion cyllideb amlinellol o dan Reol Sefydlog 20.4(ii) (neu Reol Sefydlog 20.6); a
iv) y dyddiad cau erbyn pryd y mae’n rhaid i bwyllgorau eraill gwblhau eu hystyriaeth o’r cynigion cyllideb manwl o dan Reol Sefydlog 20.4(iii) (neu Reol Sefydlog 20.6).
20.10 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad y cyfarfod llawn ar 21 Mehefin 2017]
20.11 Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynigion cyllideb amlinellol ar yr amod;
i) na fyddai effaith net y newidiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng y cyfansymiau gynigiwyd yng nghynigion cyllideb amlinelloly llywodraeth; neu
ii) bod cynnig ar gyfer cynnydd cymesur yn lefel y cyllid perthnasol yn cyd-fynd ag unrhyw argymhelliad i gynyddu cyfanswm arfaethedig y gwariant; neu
iii) y dylai unrhyw argymhelliad i ostwng lefel y cyllid egluro sut y bydd y gostyngiad hwnnw yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad yng nghyfanswm arfaethedig y gwariant.
20.12 Yn unol â’r amserlen a sefydlwyd ac a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Busnes o dan Reol Sefydlog 20.4 neu 20.6, rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynwyd gan un o Weinidogion Cymru fod y Cynulliad yn nodi cyllideb ddrafft y llywodraeth. Dim ond o dan yr amodau a ganlyn y caniateir i
unrhyw welliant gael ei gyflwyno i gynnig o’r fath:
i) na fyddai effaith net unrhyw newidiadau yn cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yng nghyllideb ddrafft y llywodraeth; neu
ii) bod cynnig ar gyfer cynnydd cymesur yn lefel y cyllid perthnasol yn cyd-fynd ag unrhyw gynnig i gynyddu cyfanswm arfaethedig y gwariant; neu
iii) y dylai unrhyw gynnig i ostwng lefel y cyllid egluro sut y bydd y gostyngiad hwnnw yn cael ei wrthbwyso gan ostyngiad yng nghyfanswm arfaethedig y gwariant.